Trosolwg
Mae Dr Giedre Sabaliauskaite yn Athro Cysylltiol mewn Seiberddiogelwch. Mae hi'n rhan o Grŵp Diogelwch Systemau yn Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe. Cyn dechrau ei swydd yn Abertawe, roedd hi'n Athro Cysylltiol mewn Systemau Awtomataidd Sicr yng Nghanolfan Trafnidiaeth a Dinasoedd y Dyfodol ym Mhrifysgol Coventry.
Enillodd radd PhD mewn Peirianneg Meddalwedd o Brifysgol Osaka, Japan, yn 2004, yn dilyn ei graddau BSc ac MSc mewn Systemau Gwybodaeth o Brifysgol Technoleg Kaunas, Lithwania.
Cyn iddi adleoli i'r DU yn 2020, bu'n gweithio am dros saith mlynedd yng Nghanolfan Ymchwil Seiberddiogelwch iTrust ym Mhrifysgol Technoleg a Dylunio Singapore. Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddiogelwch a seiberddiogelwch systemau seiber-gorfforol.
Cyn iddi fynd i Singapore, rhwng 2008 a 2010 roedd hi'n ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Lund, Sweden. Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar wella prosesau meddalwedd, yn benodol, alinio gofynion meddalwedd a phrosesau profi. Bu hefyd yn gweithio fel peiriannydd ansawdd meddalwedd mewn cwmni datblygu meddalwedd ym Mhortiwgal rhwngyn 2007 – 2008, ac fel gwyddonydd yn Sefydliad Fraunhofer ar gyfer Peirianneg Meddalwedd Arbrofol yn yr Almaen rhwngyn 2004 – 2005.