Trosolwg
Mae diddordebau ymchwil Geraint ym meysydd gwyddoniaeth gyrydu, gwyddoniaeth fforensig a synwyryddion cemegol. Mae ei brif weithgareddau'n cynnwys cymhwyso technegau sganio electrogemegol uwch i astudio mecanweithiau cyrydu lleol a chadw gwahanol fetelau ac aloiau rhag cyrydu, gan gynnwys dur, sinc, magnesiwm, alwminiwm a dur gwrthstaen.
Mae ei ddiddordebau presennol yn y maes hwn yn ymwneud ag offeryniaeth sganio chwiliedydd Kelvin (SKP) er mwyn datblygu technolegau caenu gwrth-gyrydu arloesol yn ddewisiadau eraill i systemau sy'n seiliedig ar Cr(vi), a defnyddio techneg electrod sy'n dirgrynu ac yn sganio (SVET) er mwyn egluro mecanweithiau cyrydu lleol, yn enwedig mewn Mg a'i aloiau. Mae arbenigedd sy'n arwain y byd yn y ddwy dechneg hyn wedi arwain at gyflenwi offer a adeiladwyd yn fewnol i gwmnïau rhyngwladol a grwpiau prifysgol. Ym maes gwyddoniaeth fforensig, mae diddordeb ymchwil presennol Geraint ym maes datblygu technolegau newydd i ddelweddu olion bysedd ar fetel. Cafodd cymhwysiad technoleg SKP yn y maes hwn effaith benodol, gan arwain at sylw sylweddol yn y wasg yn ddiweddar (Sky, newyddion y BBC).
Geraint yw awdur dros 100 cyhoeddiad mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygwyd gan gymheiriaid; Mynegai-H = 27; ffynhonnell: Scopus) a thros 100 papur cynhadledd. Mae wedi cyflwyno prif ddarlithoedd gwadd ddwywaith yng Nghynadleddau Ymchwil Gordon yn 2014 a 2008 ar destun cyrydu dyfrllyd, a gynhaliwyd yng Ngholeg Colby-Sawyer, NH. Mae darlithoedd gwadd eraill mewn cynadleddau'n ddiweddar yn cynnwys bod yn siaradwr cyfarfod llawn yng nghyfarfod blynyddol sefydliad cyrydu Awstralasia (Melbourne 2012), yn brif siaradwr yn 230ain ac 220ain cyfarfod ECS (Phoenix 2015, Boston 2011), cyfraniadau yn Symposiwm RIP 2012 (Dinas Salt Lake), 2014 a 2010 RTS yn cyrydu NACE (y ddau yn San Antonio) a Chynhadledd Caenau Ewrop (Berlin, 2009).