Dr Hanna Nuuttila

Dr Hanna Nuuttila

Cymrawd Ymchwil Er Anrhydedd
Biosciences

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Rwy’n wyddonydd morol sydd â 15 mlynedd a mwy o brofiad mewn ymchwil a chadwraeth mamolion morol yn y rhyngwyneb rhwng diwydiant a gwyddoniaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn defnyddio adnoddau morol mewn dull cynaliadwy.

Yn fy mhrosiectau blaenorol, rydw i wedi asesu effeithiau a phosibiliadau dyfeisiau ynni adnewyddadwy morol a datblygu a mireinio dulliau o fonitro mamolion morol gan ddefnyddio acwsteg oddefol, arolygon o’r awyr a samplu DNA. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn rhan o adferiad morwellt ac ar hyn o bryd rwy’n cymryd rhan mewn astudiaeth aml-ddull yn ymchwilio i gyd-fanteision lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, gan archwilio posibilrwydd prosiectau cadwraeth ac adfer arfordirol i gynyddu cydnerthedd economaidd-gymdeithasol ac ecolegol drwy gyfranogiad cymunedol.

Fel gwyddonydd morol ymarferol sydd ag arbenigedd uwch mewn logisteg cychod modur, deifio ac alldeithiau, rwy’n ffodus o allu cyfrannu at nifer o brosiectau morol ac at y gwaith o addysgu bioleg forol ym Mhrifysgol Abertawe.

Blog Personol: https://hknuuttila.wixsite.com/roadtonowhere

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg forol
  • Ecoleg a chadwraeth mamolion morol
  • Ynni adnewyddadwy morol
  • Monitro acwsteg oddefol
  • Cadwraeth gymunedol
  • Trawsnewid y gwaith o addasu a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn addysgu sgiliau bioleg forol ymarferol cadarn i fyfyrwyr o gychod môr, snorclo a deifio i ddylunio arolygon a chynllunio gwaith maes llwyddiannus. Rwy’n hyfforddwr deifio, yn ddeifiwr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn Rheolwr Dros Dro'r Prosiect Deifio yn Abertawe. Rwy’n hyfforddwr cychod môr y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) hefyd ac yn gyn-wirfoddolwr gyda’r RNLI, yn hyfforddwr cymorth cyntaf, yn beilot dronau cymeradwy yr Awdurdod Hedfan Sifil ac yn gapten llong masnachol. Credaf fod morwriaeth dda a gwybodaeth gadarn am heriau logistaidd y môr yn sicrhau y gellir cynnal gwaith ymchwil mwy effeithlon, cynhyrchiol a diogel yn yr amgylchedd morol ac arfordirol.

Cydweithrediadau