Trosolwg
Astudiodd Iain Fiocemeg (israddedig) ym Mhrifysgol Caerdydd a chwblhaodd ei ddoethuriaeth hefyd drwy astudio addasiadau uchderol mwydod. Yna, cafodd Iain rôl fel uwch-fiowybodegydd ym Mharc Geneteg Cymru, cyn iddo ddod yn Arweinydd Biowybodeg a Gweithrediadau. Mae Iain nawr yn gweithio i ehangu gwybodaeth a galluoedd biowybodegol ym Mhrifysgol Abertawe gan ganolbwyntio ar genomeg ac mae ef hefyd yn datblygu strategaeth hyfforddiant mewn biowybodeg gofal iechyd.