Trosolwg
Mae ei ymchwil yn cynnwys:
Rhyngweithio llafnau tro tyrbinau llanw gyda llifoedd cyfunol y llanw, tonnau a llifoedd cythryblus; arolwg llongau morol o safleoedd tonnau a llanw ynni uchel; modelu CFD o beiriannau tonnau, tyrbinau llanw, araeau, olion llongau, sgwrio a dyddodiad; dadansoddiad effaith amgylcheddol o safleoedd ynni'r tonnau a'r llanw.
Ymchwil Abertawe oedd man cychwyn Consortiwm Morol y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI Marine), a ffurfiwyd yn 2006 i gynnal ymchwil o'r radd flaenaf i gynhyrchu ynni trydan adnewyddadwy o donnau, llanwau a cherrynt mewn cefnforoedd, aberoedd ac afonydd. Mae'n cynnwys holl Brifysgolion Cymru. Er mwyn sicrhau perthnasedd diwydiannol yr ymchwil, ffurfiwyd Grŵp Gorchwyl Ynni Morol Cymru yn 2008. Gyda thros 50 o aelodau o ddiwydiant, llywodraeth a grwpiau amgylcheddol, mae'n cefnogi ymdrechion i gynhyrchu ynni morol o amgylch arfordir Cymru.
Aelod o Bwyllgor Technegol y BSI ar gyfer safonau ynni morol.
Cyn Gyfarwyddwr Ariannol Swanturbines Ltd., cwmni ynni adnewyddadwy morol a datblygwr blaenllaw tyrbinau llif llanw (www.swanturbines.co.uk). Mae'r "tyrbin gwynt tanddwr" hwn yn fath o ynni sy’n gyfangwbl o dan y dŵr ac yn gwbl rhagweladwy.