ALE108 Language Teaching Methodology
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i ymarfer a theori addysgu sgiliau a systemau iaith (e.e. darllen, siarad, gramadeg, geirfa ac ati.) i ddysgwyr iaith mewn lleoliadau dan gyfarwyddyd.
ALE200 Tools for English Language Teaching
Beth yw rhai o’r ffactorau sy’n gysylltiedig ag addysgu cyfoes ym maes Saesneg fel Iaith Dramor ? Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â’r egwyddorion a’r methodolegau hanfodol ar gyfer addysgu Saesneg fel Iaith Dramor. Bydd hyn yn hyrwyddo eu gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddulliau addysgeg sy’n berthnasol i Saesneg fel Iaith Dramor yn yr ystafell ddosbarth. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgysylltu’n feirniadol â’r Saesneg o ran gramadeg, geireg a ffonoleg gan gyfeirio at ganfyddiad dysgwyr o’r nodweddion hyn.
Prosiect Ymchwil ALE318 (Ieithyddiaeth)
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil empirig mewn Ieithyddiaeth dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn golygu casglu a dadansoddi data, yn ogystal â chofnodi eu prosiectau’n ysgrifenedig mewn traethawd hir 8,000 gair.
ALED00 Ymarfer Myfyriol Proffesiynol
Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o gynhyrchion addysgu iaith gan gynnwys proffil manwl o ddysgwr, deunyddiau ar gyfer addysgu Saesneg a deunyddiau ar gyfer profion Saesneg. Mae’r modiwl hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gymhwyso’r agweddau damcaniaethol ar addysgu Saesneg i ymarfer ystafell ddosbarth.
ALEM22 Communicative Language Teaching
Mae’r modiwl yn ymdrin ag egwyddorion sylfaenol, athroniaeth a datblygiad hanesyddol dysgu a theori dysgu iaith gan arwain at y dull cyfathrebol o addysgu iaith. Mae’n mynd i’r afael â’r ddadl bresennol am ddulliau a methodolegau yng nghyd-destun Saesneg fel iaith ryngwladol.
ALEM32 Classroom Teaching Practice
Mae hwn yn fodiwl addysgu Saesneg ymarferol, dan oruchwyliaeth, sy’n cael ei asesu. Mae myfyrwyr yn ymarfer ac yn arfarnu dulliau ac egwyddorion addysgu iaith yn feirniadol yn y dosbarth, ac yna’n profi defnydd eu gwybodaeth yn ymarferol mewn arsylwadau o ddosbarthiadau Saesneg fel iaith Dramor sy’n cynnwys dysgwyr iaith yn cael eu haddysgu gan athrawon cymwysedig. Mae’r modiwl yn hanfodol ar gyfer ALED00: Professional Reflective Practice.