Trosolwg
Mae gennyf ddiddordeb mewn cysylltedd gofodol yn nynameg poblogaeth a chanlyniadau symudiadau ar lefel poblogaeth, yn ogystal ag ecoleg clefydau. Mae’r meysydd ymchwil hyn yn gorgyffwrdd wrth i organebau sy’n byw’n rhydd ddod i gysylltiad â chyfryngau trosglwyddadwy clefydau heintus. Rydw i’n defnyddio cyfuniad o fodelu mathemategol, arbrofion ecolegol gyda rhywogaethau model, ac arsylwadau maes o ecosystemau naturiol.
Yn fy ngwaith ymchwil damcaniaethol ar ecoleg poblogaeth a chymunedau, rydw i’n gofyn cwestiynau am ddyfalwch, cydfodolaeth a gwydnwch rhywogaethau. Mae’n seiliedig ar broblemau cymhwysol pwysig, gan gynnwys cynaliadwyedd amaeth-amgylcheddol, colli bioamrywiaeth, a rheolaeth forol, yn wyneb newidiadau amgylcheddol.