Dr Jose Norambuena-Contreras

Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg, Civil Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Norambuena-Contreras yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe, y DU, ac yn aelod o'r Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau bitwminaidd hunanwella ar gyfer ffyrdd mwy cadarn a chynaliadwy. Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol hon yn integreiddio'r disgyblaethau Gwyddor Deunyddiau, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Gemegol. Cyn iddo ymuno ag Abertawe, roedd Dr Norambuena-Contreras yn  Athro Cynorthwyol a Chysylltiol mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Bio-Bio (Chile), lle gwnaeth sefydlu ac arwain Grŵp Ymchwil LabMAT. Cyn hynny, daliodd ef swyddi ymchwil ac ôl-ddoethurol mewn llawer o sefydliadau Ewropeaidd o fri, gan gynnwys Grŵp Ymchwil GITECO ym Mhrifysgol Cantabria (Sbaen), Labordai Ffederal y Swistir ar gyfer Gwyddoniaeth Deunyddiau a Thechnoleg (EMPA) yn ETH-Zürich (y Swistir) a Chanolfan Peirianneg Trafnidiaeth Nottingham (NTEC) ym Mhrifysgol Nottingham (y DU). Mae hefyd wedi cynnal gwaith academaidd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan yn Tsieina, Prifysgol Technoleg Delft yn yr Iseldiroedd a Sefydliad Technoleg Massachusetts yn UDA. Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau at ddeunyddiau bitwminaidd hunanwella, dyfarnwyd Medal Robert L’Hermite RILEM 2024 i Dr Norambuena-Contreras gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Labordai ac Arbenigwyr mewn Deunyddiau, Systemau ac Isadeileddau Adeiladu (RILEM). Rhoddir y dyfarniad urddasol hwn i ymchwilydd dan 40 oed sydd wedi gwneud cyfraniad gwyddonol eithriadol i faes deunyddiau ac isadeileddau adeiladu.

Meysydd Arbenigedd

  • Deunyddiau Adeiladu Uwch
  • Deunyddiau Ffyrdd a Phalmentydd
  • Deunyddiau Bitwminaidd Hunanwella
  • Technegau Sefydlu Gwerth Gwastraff
  • Cymysgeddau Asffalt Cynaliadwy

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n academydd ymroddedig sy'n teimlo angerdd dros addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Credaf yn gryf taw addysg cenedlaethau'r dyfodol o beirianwyr yw un o elfennau mwyaf arwyddocaol fy rôl fel academydd. Mae fy myfyrwyr yn gwerthfawrogi fy mrwdfrydedd dros addysgu ac yn rhoi sgôr uchel yn gyson ar gyfer ansawdd fy addysgu.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn Chile, rwyf wedi dysgu cyrsiau amrywiol sy'n berthnasol iawn i'm cefndir fel Peiriannydd Adeiladu a'm hymchwil mewn Deunyddiau Peirianneg Sifil. Mae hyn yn cynnwys modiwlau ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, graddau MSc a PhD mewn Peirianneg Sifil, megis Technoleg Deunyddiau, Arloesi mewn Deunyddiau, a Deunyddiau Peirianneg Sifil.

Mae fy mhrofiad o arwain a rheoli grwpiau ymchwil wedi llywio fy niddordebau addysgu cyfredol ym Mhrifysgol Abertawe tuag at gyrsiau arweinyddiaeth a rheoli ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, gan feithrin amgylchedd dysgu ysgogol a chynhwysol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau