Dr Jason Webber

Dr Jason Webber

Uwch-ddarlithydd
Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1655

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 428
Pedwerydd Llawr - DNA/Genetics
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Dr Webber ddiddordeb hirsefydlog yn y broses o reoleiddio ffenoteip celloedd stromatig. Gwnaeth gwblhau PhD yn Sefydliad Arenneg Prifysgol Caerdydd yn 2009. Ar ôl hynny, cyflwynodd ddealltwriaeth o ddynodi beta TGF (ffactor twf trawsnewidiol) i faes canser drwy archwilio rôl fesiclau allgellol (EVs) bach, a elwir fel rheol yn ecsosomau, wrth fodylu microamgylchedd tiwmorau.  

Yn 2014, derbyniodd Dr Webber gymrodoriaeth datblygu gyrfa uchel ei bri, wedi'i hariannu gan Prostate Cancer UK (2014 – 2020). Rhoddodd hon y cyfle iddo archwilio defnyddio fesiclau allgellol mewn modd trawsfudol, yn bennaf fel biofarcwyr i ganfod tiwmorau ymosodol (y prostad ac eraill) yn gynnar. Atgyfnerthwyd y profiad hwn gan hyfforddiant ychwanegol yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Erasmus yn Rotterdam.  

Mae diddordebau ymchwil presennol Dr Webber yn parhau i ganolbwyntio ar rôl fesiclau allgellol wrth i diwmorau ddatblygu a datblygu biofarcwyr sy'n seiliedig ar fesiclau allgellol. Mae mentrau cydweithredol diweddar wedi rhoi cyfle iddo ehangu'r gwaith ymchwil hwn i gynnwys clefydau megis canser y fron, mesothelioma a sglerosis cnapiog (tuberous scleroris). Mae Dr Webber yn aelod presennol o fwrdd yr elusen UK Society for Extracellular Vesicles 

Mae Dr Webber yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar lefel MSc a PhD, ac mae'n cyfrannu at addysgu amrywiaeth o raglenni yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.  

Meysydd Arbenigedd

  • Fesiclau allgellol (EVs)
  • Microamgylchedd tiwmorau
  • Canser y prostad
  • Biofarcwyr canser
  • Stroma
  • Gwahaniaethu rhwng celloedd
  • Proteoglycans

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

'Deall pam mae rhai canserau'n fwy ymosodol nag eraill' 

Mae ymchwil Dr Webber yn canolbwyntio ar rôl fesiclau allgellol (EVs) bach, a elwir yn aml yn ecsosomau, wrth symbylu canser ymosodol y prostad. Yn y gorffennol, mae wedi dangos y gall fesiclau allgellol actifadu celloedd stromatig, sydd hefyd yn bresennol ym microamgylchedd tiwmorau, a thrwy hynny hwyluso twf tiwmorau. Mae'n debygol bod fesiclau allgellol yn gweithredu fel hyn o ganlyniad i proteoglycans sylffad heparin (HSPGs), sy'n bresennol ar arwyneb fesicl allgellol, ac sy'n ofynnol at ddiben cyflwyno ffactor twf fesiclau allgellol-gyfryngol. Yn ogystal â'u rôl weithredol, gall EV-HSPGs o'r fath fod yn fiofarcwyr newydd sy'n gallu gwahaniaethu rhwng cleifion sy'n dioddef o fathau ymosodol o ganser, a'r rhai sy'n dioddef o diwmorau sy'n tyfu'n araf.  

Ar hyn o bryd, mae Dr Webber yn archwilio methodolegau newydd ar gyfer cyfuno biofarcwyr lluosog, ac mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio ymagweddau sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial at y diben hwn.  

Mae'r diddordebau ymchwil ychwanegol yn labordy Dr Webber yn cynnwys ynysu fesiclau allgellol rhag biohylif, dadansoddiad gweithredol o fesiclau allgellol, a'u rôl mewn clefydau prin (e.e. sglerosis cnapiog (tuberous scleroris)).  

Prif Wobrau Cydweithrediadau