singleton aerial
Dr Jamie Stacey

Dr Jamie Stacey

Tiwtor Datblygu Rhyngwladol, Politics, Philosophy and International Relations

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jamie D Stacey yn ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol sy'n arbenigo mewn damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol (yn enwedig lluniadaeth a lluniadaeth feirniadol), hawliau dynol ac ASEAN.  Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y troad ieithyddol mewn cysylltiadau rhyngwladol a sut mae actorion amrywiol (yn enwedig actorion anorllewinol) yn defnyddio iaith a naratif i lunio a herio normau rhyngwladol (yn enwedig hawliau dynol).

Mae ei waith ymchwil presennol yn addasu pedair carfan hawliau dynol Dembour (2010) (y pedair ffordd rydym yn cysyniadu hawliau dynol) ac yn cymhwyso hyn i actorion cysylltiadau rhyngwladol, â'r nod o amlygu ymhellach y gwahaniaethau cymhleth rhwng amryw actorion (gan gynnwys rhai gorllewinol ac anorllewinol megis ASEAN).

Wrth wneud hynny, mae'n ceisio cyfrannu at y drafodaeth am hawliau dynol, sut rydym yn meddwl am hawliau dynol mewn cysylltiadau rhyngwladol a natur fwy cymhleth stori hawliau dynol ym maes cysylltiadau rhyngwladol pan gaiff ei chyfleu drwy lens amrywiaeth o actorion (gwladwriaethol a heb fod yn wladwriaethol, gorllewinol ac anorllewinol ac ati).

Yn ogystal â chysylltiadau rhyngwladol, yn y gorffennol mae Dr Stacey wedi ysgrifennu am arweinyddiaeth wleidyddol (llenyddiaeth gymharol o Brydain a Ffrainc). Hefyd ar hyn o bryd mae wrthi’n ysgrifennu papur athroniaeth/moeseg ar y pwnc 'y rhwymedigaeth foesol i fod yn (rhesymol) ffit'.

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Lluniadaeth (yn enwedig lluniadaeth feirniadol )
  • ASEAN
  • Hawliau Dynol (athronyddol a gwleidyddol)
  • Moeseg (yn enwedig mewn cysylltiad â hawliau dynol