Trosolwg
Mae Julia yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n gweithio'n agos gyda chymunedau Byddar er mwyn gwella polisïau ac ymarfer gofal iechyd i leihau'r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl Fyddar yn eu hwynebu.
Julia yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Fynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Byddar ac mae'n arwain ac yn gweithio ar brosiectau i gyflawni newidiadau cadarnhaol i bobl sy’n Fyddar ac yn drwm eu clyw ac, yn y pen draw, i wella iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Mae gan Julia ddiddordeb mewn ymwybyddiaeth o Fyddardod ac mae'n gweithio gyda chymunedau Byddar ar becyn e-ddysgu wedi'i arwain gan bobl Fyddar sydd ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr iechyd proffesiynol. Mae'r pecyn yn cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio'n ehangach yn Nghymru ar gyfer staff yn y GIG a'r sector gofal. Cwblhaodd Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol a ariannwyd gan RCBC Wales yn 2023, gan astudio'r hyn sy'n cefnogi rhieni sy'n clywed a chanddynt blant byddar yng Nghymru. Mae hi'n un o Ymddiriedolwyr Canolfan Pobl Fyddar Abertawe. Ar hyn o bryd mae Julia yn astudio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) lefel 4.
Mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid mewn gwledydd incwm isel a chanolig ac mae'n arwain grŵp Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru. Mae'n un o ymddiriedolwyr Partneriaethau Iechyd Byd-eang (THET gynt). Julia yw Arweinydd Rhyngwladoli’r Ysgol, gan ddatblygu profiadau dysgu a chyfnewid ar gyfer myfyrwyr a sefydliadau partner, ac mae'n cefnogi profiad myfyriwr rhyngwladol yma yn Abertawe.
Mae gan Julia 30 o flynyddoedd o brofiad fel nyrs iechyd meddwl, sy'n cynnwys wyth mlynedd yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Canolbwyntiodd ei PhD ar hunaniaethau nyrsio iechyd meddwl proffesiynol a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn prosesau nyrsio. Mae Julia wedi gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth yn y GIG ac ym maes addysg uwch gan gynnwys cysylltu â chyrff mewnol ac allanol mewn perthynas â darparu, trefnu a sicrhau ansawdd gwasanaethau. Mae hi’n gweithio’n agos gydag asiantaethau yn y trydydd sector. Mae hi ar gael i drafod materion â'r cyfryngau.