Trosolwg
Dechreuais fy ngyrfa ym Mhrifysgol Abertawe yn 2018 fel Swyddog Gwyddonol (ymchwilydd ôl-ddoethurol) ar Brosiect BlueFish. Yn 2020, ymunais â thîm Technegol y Biowyddorau yn y labordai addysgu yn adeiladau Wallace a Margam. Mae’r rôl hon yn cynnwys paratoi a hwyluso sesiynau ymarferol i israddedigion drwy baratoi deunyddiau, cyfarpar, toddiannau cemegol ac adweithyddion a sbesimenau biolegol. Rwyf hefyd yn rhoi hyfforddiant ar y cyfarpar, yn cynnig cymorth technegol ac yn rhoi cyngor ar iechyd a diogelwch i fyfyrwyr ac academyddion. Yn 2022, helpais i ddatblygu cwrs sefydlu mewn labordy a'i weithredu a gynhaliwyd gan y tîm technegol ar gyfer ein myfyrwyr israddedig. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ofalu am amgueddfa sŵoleg yr adran a’i churadu.
Mae fy nghymwysterau'n cynnwys gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BSc (Anrh.) mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol (Prifysgol Morgannwg), gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil o'r enw “A Population Genetic Study of Manta birostris & Mobula Species.” (Prifysgol Morgannwg/Prifysgol De Cymru) a gradd ddwbl PhD “Evolution & Extinction of the Great Auk: A Palaeogenomic Approach”(Prifysgol Bangor a Phrifysgol Copenhagen). Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod ar ddau gwrs byr er mwyn gweithio mewn amgueddfeydd; Gofal a Rheoli Casgliadau Hanes Naturiol, Cadwraeth mewn Hylifau ar gyfer Sbesimenau Biolegol. Rwyf hefyd wedi cwblhau hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf yn y Gweithle, Cymorth Cyntaf Cemegol, Asesiadau Risg Cemegol mewn Labordai ac Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch.