Trosolwg
Mae Dr Kym Carter yn Uwch Swyddog Ymchwil yn Uned Dreialon Abertawe yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Mae’n gyfrifol am reoli treialon clinigol uchel eu proffil a reolir gan Uned Dreialon Abertawe yn ei rôl fel Uwch Reolwr Treialon. Mae Kym wedi gweithio ym maes ymchwil ers 1999 gyda’i rôl gyntaf gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru lle’r oedd yn archwilio hemocromatedd. Ers hynny, mae wedi symud ymlaen i ymchwil gwasanaethau iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi cymhwyso ei sgiliau rheoli treialon clinigol i arbenigeddau amrywiol yn cynnwys gastroenteroleg, canser, diabetes, trawma a dermatoleg.