Mrs Kim Toogood

Animal Husbandry Technican, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604652

Cyfeiriad ebost

48A
Llawr Gwaelod
Adeilad Talbot
Campws Singleton

Trosolwg

Cefais fy ardystiad fel Nyrs Filfeddygol gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ym 1999. Gosododd hyn y sylfeini ar gyfer fy niddordeb mewn gofal ac ymchwil i anifeiliaid. Mewn practis milfeddygol preifat, gwnes i ehangu fy sgiliau arbenigol wrth ymgymryd ag astudiaethau ychwanegol ym maes ymddygiad anifeiliaid anwes a maeth anifeiliaid bach, gan gyfoethogi fy nealltwriaeth o les anifeiliaid.

Yn 2020 dechreuais i weithio ym Mhrifysgol Abertawe fel technegydd ymchwil anifeiliaid gyda thîm Labordy SLAM. Rwyf yn goruchwylio lles a hyfforddiant adar yn y cyfleuster twnnel gwynt ac yn cynorthwyo ymchwilwyr wrth gasglu data a gweithredu'r twnnel gwynt a'r system cofnodi symudiadau 3D.

Yn ddiweddar cwblheais fy MSc (Ymchwil) yn y Biowyddorau, gan ganolbwyntio'n benodol ar archwilio nodweddion deunyddiau a ddefnyddir wrth greu harneisiau rhyddhau. Yn ogystal â dyfnhau fy nealltwriaeth o wyddor deunyddiau, gwnaeth hyn gynnig dealltwriaeth hanfodol er mwyn gwella mesurau diogelwch mewn arbrofion sy'n ymwneud ag anifeiliaid.

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Ymddygiad a hyfforddiant anifeiliaid