Trosolwg
Mae Kevin O'Keeffe yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffiseg yn y Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe. Cynhaliwyd ei waith doethuriaeth ym Mhrifysgol Dechnegol Fienna, Awstria, lle bu’n canolbwyntio ar gynhyrchu pylsiau laser cylch prin a'u cymhwysiad i reoli ffotoïoneiddiad atomig. Cynhaliwyd ei ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen lle bu’n canolbwyntio ar ddatblygu ffynonellau ymbelydredd tonfedd fer a sbardunir gan systemau laser dwysedd uchel. Rhwng 2010 a 2013 bu'n Ddarlithydd Cyflogedig mewn Ffiseg yng Ngholeg Santes Hilda, Prifysgol Rhydychen lle bu’n addysgu ffiseg atomig, opteg a thermodynameg.
Yn 2014, ymunodd â'r adran ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei waith ymchwil pellach yn canolbwyntio ar ddatblygu delweddu gofodol a thymhorol cydraniad uchel yn seiliedig ar ffynonellau pelydr-x cydlynol cryno.