Trosolwg
Mae Dr Katharine Steentjes yn seicolegydd amgylcheddol ac yn gymrawd polisi UKRI sy'n gweithio gydag Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys prosesau normadol cymdeithasol ynghylch newid hinsawdd ac adnabod cyfleoedd i wella newidiadau cymdeithasol tuag at fywydau mwy cynaliadwy a gwydn.
Mae Katharine yn aelod cyswllt y Ganolfan Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST) ac eisoes wedi gweithio ar amryfal brosiectau ymchwil rhyngwladol sy'n archwilio canfyddiadau cyhoeddus o risgiau amgylcheddol (fel newid hinsawdd), strategaethau polisi, atebion ynni a'r ffactorau seicolegol sydd wrth wraidd y farn a'r ymddygiadau hyn. Ar ben hynny, mae gan Katharine ddiddordeb mewn datblygu strategaethau ymgysylltu a chyfathrebu sy'n hwyluso cymorth ar gyfer gweithredu personol, cymunedol a chenedlaethol i ymateb a/neu baratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd Katharine yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o CAST a'r grŵp ymchwil Deall Risg. Cwblhaodd ei PhD mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerwysg, mae ganddi MSc mewn Seicoleg Cymdeithasol o Vrije Universiteit Amsterdam (VU) a BA mewn Seicoleg Iechyd o Brifysgol Twente.