Dr Llinos Harris

Dr Llinos Harris

Uwch-ddarlithydd
Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Llinos G Harris yn Uwch-ddarlithydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Bu’n gweithio fel Uwch-gynorthwy-ydd Ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth am nifer o flynyddoedd cyn cael ei dyrchafu i swydd academaidd. Mae hi'n arbenigo mewn pathogenesis microbaidd ac ymwrthedd i wrthfiotigau; mae ganddi ddiddordeb penodol yn ffurfiad bioffilmiau staffylococal a'i rôl ym mhathogenesis heintiau sy'n gysylltiedig â dyfeisiau meddygol a heintiau nosocomaidd. Mae Llinos yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac mae hi'n arwain ac yn addysgu ar nifer o fodiwlau Geneteg, Biocemeg a Gwyddor Feddygol Gymhwysol. Mae hi hefyd yn goruchwylio prosiectau ymchwil israddedig ac ôl-raddedig.

Cwblhaodd Llinos draethawd estynedig ei MSc (Aberystwyth) ar optimeiddio technegau delweddu electronau wedi'u hôl-wasgaru ar safleoedd adlyniad celloedd ar gyfer microsgopeg sganio electronau yn Sefydliad Ymchwil AO, Davos, y Swistir. Wedyn cwblhaodd PhD o'r enw “Molecular analysis of Staphylococcus aureus adhesins” ym Mhrifysgol Sheffield mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil AO. Yna bu'n gweithio am sawl blwyddyn fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil AO lle cafodd ei mentora gan y Cyfarwyddwr presennol, yr Athro R Geoff Richards. Yn ystod ei chyfnod yn Sefydliad Ymchwil AO, bu Llinos yn gweithio ar sawl prosiect yn canolbwyntio ar fiogydnawsedd bioddeunyddiau sydd ar gael yn fasnachol â chelloedd ewcaryotig (ffibroblastau, osteoblastau), staffylococi (S. aureus yn bennaf) a bacteria perthnasol eraill.

Meysydd Arbenigedd

  • • Staffylococi
  • • Bioffilmiau
  • • Heintiau dyfeisiau meddygol
  • • Microsgopeg
  • • Pathogenesis microbaidd
  • • Ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • • Bioleg foleciwlaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Llinos yn canolbwyntio ar ficrobioleg a chlefydau heintus gan ddefnyddio ymagwedd a arweinir gan ymchwil. 

Mae hi'n arweinydd y modiwl PM-004, Hanfodion Microbioleg a Chlefydau a PM-120/PM-120C, Sgiliau ar gyfer Genetegwyr I; mae hi hefyd yn aelod o dîm darlithio'r modiwlau PM-200, Sgiliau ar gyfer Genetegwyr II, PM-250/PM-250C, Clefydau Heintus a Pharasitoleg, PM-315/PM-315C, Sgiliau ar gyfer Genetegwyr III, PM-304/PM-304C Prosiect Ymchwil Fiomoleciwlaidd, PM-357/PM-357C Technegau Labordy Biomeddygol, PM-344C, Prosiect Capfaen a PM-402/402C, Prosiect Ymchwil Uwch B.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau