Trosolwg
Cwblhaodd Dr Lauren Blake ei gradd israddedig mewn Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi hynny aeth ymlaen i gwblhau ei PhD mewn Bioleg Foleciwlaidd yn y grŵp Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol, unwaith eto ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, Lauren yw'r Cyfarwyddwr Darpariaeth Addysg Gymraeg ac Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol, yn datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer y cwrs Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe.