Trosolwg
Mae ymchwil Dr Liadh Timmins yn ymwneud yn bennaf â thueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn cynnwys effeithiau straen lleiafrifol ar leiafrifoedd rhywiol a rhywedd; seicoleg rhagfarn; a rhannau cymdeithasol a gwybyddol tueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Mae eu gwaith yn defnyddio lens groestoriadol a ffeministaidd.
Derbyniodd Dr Timmins radd BA mewn Seicoleg o Brifysgol Maynooth, MSc mewn Seicoleg Gymhwysol o Goleg y Drindod Dulyn, a PhD mewn Seicoleg o Goleg y Brenin Llundain. Cwblhawyd hyfforddiant ôl-ddoethurol mewn Epidemioleg gyda ffocws ar Epidemioleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Columbia.