Institute of Life Science 1 internal Atrium view up
Professor Lucy Griffiths

Yr Athro Lucy Griffiths

Yr Athro Epidemioleg Bediatrig
Health Data Science

Cyfeiriad ebost

lucy.griffiths@abertawe.ac.uk
406
Pedwerydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Athro Epidemioleg Bediatrig yw Dr Lucy Griffiths. Graddiodd gyda BSc (Anrh) o Brifysgol Caint cyn cwblhau ei MSc mewn Iechyd a Gwyddor Ymarfer Corff a PhD ym Mhrifysgol Bryste. Aeth ymlaen i weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg Prifysgol Llundain am 13 o flynyddoedd. Yn ystod ei hamser yn Llundain, cafodd Lucy hyfforddiant ffurfiol mewn Epidemioleg (MSc) yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Mae gwaith ymchwil Lucy'n defnyddio arolygon a gwybodaeth weinyddol a gesglir am blant a phobl ifanc, i astudio amrywiaeth o amgylchiadau unigol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gallu effeithio ar iechyd ac ymddygiadau iechyd yn y poblogaethau hyn.

Mae Lucy'n gyd-arweinydd y Ganolfan Ymchwil i'r Amgylchedd ac Iechyd (ENVHE) yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio yn Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield; Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant; Ymchwil Data Iechyd y DU, Cymru a Gogledd Iwerddon; Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru ac ADR Lloegr.

Rolau eraill: Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Meddygaeth Gymdeithasol ac Iechyd y Boblogaeth; Arweinydd Academaidd Prifysgol Abertawe ar gyfer Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru; Cynrychiolydd Prifysgol Abertawe ar gyfer Grŵp Llywio Rhwydwaith Arloesi Cymru ar gyfer Iechyd a Lles y Boblogaeth; Cyfarwyddwr Astudiaeth Cymru o Generation New Era (astudiaeth o garfan genedigaethau yn y DU).

Meysydd Arbenigedd

  • Epidemioleg (gymdeithasol a phediatrig)
  • Iechyd plant
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Gofal cymdeithasol plant
  • Astudiaethau hydredol o garfannau o enedigaethau
  • Data gweinyddol cysylltiedig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Lucy'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac mae ganddi brofiad o ddatblygu modiwlau, darlithio a goruchwylio myfyrwyr MSc a PhD.

Mae hi'n addysgu ym meysydd epidemioleg ac iechyd plant.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau