Trosolwg
Ar ôl astudio ieithoedd Clasurol, llenyddiaeth, diwylliant a hanes yn Abertawe, Rhydychen, Caeredin a Glasgow, a degawd o ddysgu Hen Roeg, Lladin, Gwareiddiad Clasurol a Hanes yr Hen Fyd i TGAU a Safon Uwch, ymunais â'r Adran fel Tiwtor Iaith Groeg a Lladin ym mis Medi 2017.
Yn ogystal ag addysgu ieithoedd hynafol, rydw i'n cynnull y modiwl Lleoliadau Ysgol adrannol, sy'n caniatáu i fyfyrwyr roi cynnig ar addysgu Gwareiddiad Clasurol, Hanes yr Hen Fyd, Lladin neu Groeg mewn ysgolion lleol, tra'n cael cyflwyniad i ddamcaniaeth a threfniadaeth addysgu pynciau Clasurol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Rydw i hefyd yn cynnal Ysgol Haf flynyddol yr Adran mewn Ieithoedd Hynafol, ac rwy'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ysgol Haf Roegaidd y Joint Association of Classics Teachers (JACT) yn Bryanston.
Rwy’n fodlon cynghori myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr ar unrhyw agwedd ar ddysgu ac addysgu ieithoedd Clasurol.