Dr Matthew Watkins

Technegydd (y Biowyddorau), Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 112
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton

Trosolwg

Cwblheais i fy ngradd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol De Cymru, gan raddio gyda 2:1 yn 2013. Yn dilyn hyn, des i i Brifysgol Abertawe i astudio gradd Meistr mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd. Ar gyfer fy nhraethawd ymchwil, gwnes i ail-greu gardd addurnol Syr William Paxton gan ddefnyddio dadansoddiadau o baill ffosiledig. Yna es i ymlaen i gwblhau PhD yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Aeth fy astudiaethau â mi i Oregon a Washington yng ngogledd-orllewin arfordir Môr Tawel America, lle gwnaethon ni ail-greu 3,000 o flynyddoedd o aflonyddwch ar goedwigoedd, gan ganolbwyntio ar chwilod rhisgl, tanau gwyllt a gweithgarwch folcanig. Wrth lunio fy PhD, gweithiais i hefyd yn y labordy profion PRC Covid-19 ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, yng Nghaerdydd. Ymunais â thîm technegol Adran y Biowyddorau ym mis Hydref 2022.

  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (PRU Medical, 2023)
  • Cymorth Cyntaf Cemegol (PRU Medical, 2022)

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg foleciwlaidd
  • DNA gwaddodol ac amgylcheddol
  • Plâu a chlefydau coedwigoedd
  • Palaeoecoleg
  • Ail-greu tanau gwyllt
  • Newid amgylcheddol
  • Dendrocronoleg
  • Dyddio radio-carbon