Trosolwg
Mae Melitta yn arbenigo mewn ffitrwydd cardioresbiradol ar draws iechyd, ffitrwydd a hyd oes gyda diddordeb arbennig mewn poblogaethau pediatrig. Mae ei gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ymyrryd nad ydynt yn ffarmacolegol, megis hyfforddiant cyhyrau mewnanadlol a hyfforddiant dwysedd uchel ysbeidiol, i bobl ag asthma a ffibrosis cystig. Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb yn rôl adsefydlu'r ysgyfaint ar gyfer cleifion â chlefyd anadlol, yn enwedig Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint, a'r addasiadau posibl y gellir eu gwneud i strategaethau traddodiadol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r cleifion.
Datblygwyd y maes ymchwil hwn yn dilyn gwaith ôl-ddoethurol Melitta ym Mhrifysgol Abertawe yn ystyried datblygu model o reolaeth gardioresbiradol ar gyfer ysgyfaint artiffisial symudol. Yn olaf, yn dilyn ei gwaith PhD ym Mhrifysgol Caerwysg, mae Melitta yn parhau i ymchwilio i'r rhyngweithio rhwng hyfforddiant ac aeddfedrwydd ar ymatebion bioegnïeg plant a phobl ifanc, gyda chydweithrediadau diweddar wedi'u sefydlu gyda Hoci Cymru, Rhwyfo Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.