Bay Campus image
male smiling

Dr Matthias Dilling

Aelod Cyswllt
Faculty of Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Dilling yn Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth yn Abertawe ac yn aelod cysylltiol o Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Rhydychen. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gwestiwn canolig ym maes gwleidyddiaeth gymharol ac Ewropeaidd: Pam a sut mae sefydliadau democrataidd yn ffurfio, yn esblygu ac yn effeithio ar ganlyniadau gwleidyddol? Mae Dr Dilling yn ymchwilio i’r cwestiwn hwn gyda ffocws ar bleidiau gwleidyddol yn Ewrop a sut mae’r pleidiau hyn yn ffurfio, yn datblygu ac yn ymateb i amgylchedd newidiol. Yn empeiraidd, mae ganddo ddiddordeb penodol mewn pleidiau gwleidyddol o ganol i dde eithafol y sbectrwm gwleidyddol ac mae wedi gwneud ymchwil archifol fanwl yn yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal ac Awstria.

Mae gwaith unigol Dr Dilling, a’i waith ar y cyd, wedi’i gyhoeddi yn Political Research Quarterly, Social Science History, German Politics and Society, ac mewn cyfrolau wedi’u golygu ar wleidyddiaeth yr Almaen.

Cyn ymuno ag Abertawe, roedd Dr Dilling yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen a Choleg Penfro Prifysgol Rhydychen, ac yn ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Yale a Phrifysgol Fienna. Mae ganddo PhD o Brifysgol Rhydychen (Coleg Nuffield). Derbyniodd ei draethawd ymchwil doethurol wobr Walter Dean Burnham gan y Gymdeithas Gwyddor Wleidyddol Americanaidd am y traethawd estynedig gorau ym maes Gwleidyddiaeth a Hanes.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Dr Dilling yma.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth gymharol
  • Gwleidyddiaeth Ewropeaidd
  • Pleidiau gwleidyddol
  • Sefydliadau gwleidyddol
  • Dulliau ansoddol a hanesyddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Dr Dilling yn cynnwys gwleidyddiaeth gymharol, gwleidyddiaeth Ewropeaidd, pleidiau gwleidyddol a chystadleuaeth bleidiol, cymdeithaseg wleidyddol, dyluniadau ymchwil cymharol, a dulliau ansoddol. Mae wedi addysgu yn eang ar lefelau israddedig, MA a PhD yn ogystal â goruchwylio traethodau estynedig ar faterion megis y canol a’r dde eithafol yn Ewrop, gwleidyddiaeth a chrefydd, rhywedd a gwleidyddiaeth, a hanes a gwleidyddiaeth.

Mae ei addysgu yn pwysleisio dysgu gweithredol, gan rymuso myfyrwyr i fod yn ddysgwyr hunanreoledig, ac integreiddio gwybodaeth bynciol gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol i wella cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr.

Cwblhaodd Dr Dilling PGCert mewn Addysgu a Dysgu Addysg Uwch (gyda rhagoriaeth) yng Nghanolfan Dysgu ac Addysgu Prifysgol Rhydychen. Mae’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Yn 2018, cyrhaeddodd restr fer y wobr Tiwtor Rhagorol pan gafodd ei enwebu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Rhydychen.

Prif Wobrau