Dr Mukesh Tiwari

Darlithydd, Computer Science
316
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Mukesh Tiwari yn Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe. Nod ei ymchwil yw sicrhau cywirdeb a diogelwch rhaglenni meddalwedd a ddefnyddir yn y maes cyhoeddus gan ddefnyddio dulliau ffurfiol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar brofi cywirdeb rhaglenni meddalwedd, yn enwedig y rhai a ddefnyddir ar gyfer sefyllfaoedd hollbwysig sy'n ymwneud â dinasyddion cyffredin, e.e. meddalwedd cyfrif pleidleisiau ar gyfer etholiadau i swydd gyhoeddus sy'n rhwymo'n gyfreithiol, meddalwedd prosesu data ar gyfer data sensitif, meddalwedd cryptograffeg a ddefnyddir mewn etholiadau, etc. Yn bennaf, mae'n defnyddio'r profwr theoremau Coq i roi rhaglenni meddalwedd ar waith a phrofi eu bod yn gywir. Yn ogystal, mae'n frwdfrydig iawn am addysgu dilysu ffurfiol.

Mae croeso i chi gysylltu ag ef os oes gennych brosiect ymchwil sy'n ymwneud â phrofi theoremau, yn enwedig os yw'n cynnwys Coq.

Meysydd Arbenigedd

  • Cryptograffeg
  • Pleidleisio Electronig
  • Profi Theoremau Rhyngweithiol (Profwr Theoremau Coq)
  • Diogelwch Meddalwedd
  • Seiberddiogelwch
  • Damcaniaeth Dewis Cymdeithasol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cryptograffeg

Profi Theoremau

Dilysu Ffurfiol