Dr Nia Davies

Dr Nia Davies

Athro Cyswllt
Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 135
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiodd Nia o Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd ar ôl ennill BSc ac MSc mewn Gwyddoniaeth Fiomeddygol, gan arbenigo mewn Tocsicoleg Fforensig a Microbioleg Feddygol. Yn sgil hyn, dyfarnodd yr NISCHR Cymru Ysgoloriaeth Ymchwil a Datblygu i Nia i ymgymryd â PhD ym maes effaith ymarfer corff ar lid, diabetes Math 2 a chlefyd cardiofasgwlaidd. Parhaodd Nia i ymchwilio i lid mewn rôl Ymchwil Ôl-ddoethurol yn yr Uned Ymchwil Fiomeddygol i Haemostasis yn Ysbyty Treforys, gan ddatblygu diddordeb mewn canser, llid a haemostasis. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae Nia wedi cyhoeddi mewn llawer o gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, a hi oedd yr unig ymgeisydd yng Nghymru i dderbyn Ysgoloriaeth Teithio Lifeblood er mwyn cyflwyno ei gwaith mewn cynhadledd ryngwladol. Ar hyn o bryd, Nia yw Cyfarwyddwr Rhaglen Blwyddyn Sylfaen y cwrs Gwyddor Feddygol Gymhwysol yma yn Abertawe. Mae hi hefyd yn addysgu ar raglenni gradd eraill, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae hi'n uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn gweithredu fel arholwr allanol ar gyfer sefydliadau eraill. Mae ei hymchwil bellach yn canolbwyntio ar fodelau in vivo at ddibenion addysgu ac addysg, ynghyd ag ymchwil addysgegol.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioleg Foleciwlaidd
  • Mynegiant genynnau
  • Canser a Llid
  • Haemostasis
  • Haematoleg
  • Datblygu sgiliau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Nia yn addysgu ar fodiwlau Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Iechyd y Boblogaeth a Gwyddorau Meddygol, Ffarmacoleg Feddygol, Geneteg a Biocemeg. Mae hi hefyd yn Swyddog Arholiadau ac Asesiadau ar gyfer y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.

Ymchwil Prif Wobrau