Trosolwg
Mae Dr De Mello yn Dechnolegydd Arloesi Uwch yng Nghanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe, rhan o’r rhaglen Cyflymu Cymru. Mae’n arwain gwaith ymchwil a datblygu cydweithredol a arweinir gan ddiwydiant ar gyfer technolegau gofal iechyd.
Ar ôl ennill BSc a Doethuriaeth, b Dr De Mello yn gweithio gydag Innoture Ltd <https://www.innoture.co/>, partner yn y diwydiant. drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth fel prif wyddonydd i arwain a datblygu eu medrusrwydd Ymchwil a Datblygu yn Abertawe. Arweiniodd hyn at lansio’n llwyddiannus dri chynnyrch ac at dreialu ymchwiliad clinigol o’u dyfais feddygol.
Mae Dr De Mello yn Wyddonydd siartredig ac fe gafodd achrediad yn 2019 drwy Gymdeithas Frenhinol Bioleg.