Trosolwg
Mae Dr Nick Owen yn fiofecanydd sy'n arbenigo mewn biomecaneg ddynol. Ei ddiddordebau yw asesu perfformiad dynol a datblygu offerynnau newydd ar gyfer asesu niwrogyhyrol.
Mae gwaith Dr Owen wedi ei arwain at sawl maes ymchwil sy'n ymddangos yn ddigyswllt. Yn ogystal ag asesu athletwyr elît am weithrediad niwrogyhyrol e.e. cryfder a chyflyru, mae Dr Owen yn defnyddio'r un technegau ar gyfer asesu cydsymud mewn plant. Mae ganddo un trefniant cydweithio hirsefydlog gydag Ymddiriedolaeth Mary Rose lle mae'n defnyddio technegau biomecaneg i ymchwilio i effeithiau gweithgarwch corfforol ar esgyrn. Mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd mewn gwahanol dechnegau delweddu e.e. ffotogrametreg a sganio DXA a'u defnyddioldeb i fiomecaneg.