Parc Singleton
Dr Nia Davies

Dr Nia Davies

Cynorthwy-ydd Ymchwil, Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd

Trosolwg

Mae Dr Nia Davies yn fardd, yn awdur-olygydd ac yn ymchwilydd sy'n arbrofi â pherfformiad, ymarfer ymgorfforedig, amryw gyfryngau ac ysgrifennu hybrid.

Gwnaeth ei chasgliad cyntaf o gerddi hyd llyfr All fours (Bloodaxe Books, 2017) gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Roland Matthias am Farddoniaeth (2018) a chyrraedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Goffa Michael Murphy am Gasgliadau Cyntaf (2019). Gwnaeth hyn ddilyn y pamffledi a'r llyfrau bach England (Crater, 2017),  Çekoslovakyalılaştıramadıklarımızdanmısınız or Long Words (Hafan/Boiled String, 2016), Then Spree (Salt, 2012) a chyhoeddiadau ar y cyd eraill. Caiff ei hail gasgliad o gerddi, Votive Mess ei gyhoeddi gan Bloodaxe ym mis Hydref 2024.

Cwblhaodd ei thraethawd ymchwil doethurol ar sail ymarfer ar farddoniaeth a pherfformiad defodol ac enillodd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Salford yn 2021. Mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar ymarfer creadigol rhyngddisgyblaethol, ymgorfforiad, ecoleg, rhywioldeb, arbrofi, cymdeithas ddigidol ac AI, cyfieithu, Cymru a’r Gymraeg, ac ymarfer celf rhyngddiwylliannol.

Mae Nia hefyd wedi gweithio ledled y byd fel curadur llenyddol a golygydd. Roedd hi'n olygydd cylchgrawn rhyngwladol chwarterol Poetry Wales o 2014 i 2019 ac wedi cyd-guradu gwyliau barddoniaeth a pherfformiad Poetry Emergency yn 2018 a 2019. Mae hi hefyd wedi gweithio ar gydweithrediadau llenyddol rhyngddiwylliannol a phrosiectau cyfieithu gyda Literature Across Frontiers yn Sefydliad Mercator; roedd hyn wedi cynnwys gweithio ar brosiect Cysylltiadau Barddoniaeth rhwng Cymru ac India. Ar hyn o bryd, mae'n rhan o dîm curadu cyfres o ddigwyddiadau arbrofol yn ne Cymru, Nawr, ac mae'n cefnogi Pamenar press.

Meysydd Arbenigedd

  • Barddoniaeth arbrofol cyfoes a'r ugeinfed ganrif
  • Barddoneg
  • Ysgrifennu o ran perfformiad, ymarfer ymgorfforedig, defod, astudiaethau perfformio
  • Ymchwil ar sail ymarfer ac ysgrifennu creadigol
  • Curadu, golygu a chyhoeddi llenyddiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Fel bardd ac ymchwilydd, mae gennyf ddiddordeb mewn ymarfer creadigol arbrofol ac ymchwil sy'n croesi ffiniau disgyblaethol. Mae fy ngwaith ymchwil yn deillio o gefndir mewn ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, perfformiad, cydweithrediadau rhyngddiwylliannol a churadu llenyddol. Yn fwyaf diweddar, mae fy mhrosiectau'n deillio o'm gwaith ymchwil ddoethurol ar farddoniaeth, defod a pherfformiad, megis fy nghasgliad o farddoniaeth sydd ar ddod, Votive Mess (2024, Bloodaxe). Rwyf hefyd yn datblygu barddoneg sydd wedi'i hysbrydoli drwy archwilio perfformiad, ymgorfforiad, ecoleg a'm proses o ddysgu Cymraeg.

Fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, rwy'n cefnogi cydweithrediadau ymchwil ar draws disgyblaethau ac mae gennyf ddiddordeb mewn sut gall ymchwil ryngddisgyblaethol, amlddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol yn y dyniaethau drafod a mynd i’r afael â heriau cymhleth megis yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, AI a newid digidol a chymdeithasol.

Ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mae fy ngwaith ymchwil a'm hymarfer creadigol yn canolbwyntio ar y themâu rhyng-gysylltiol canlynol:

  • sut gall ymarfer creadigol ac ymgorfforedig gyfrannu at ddeall yr argyfwng ecolegol a chreu dulliau newydd o fyw'n fwy teg ac mewn modd bioffilig;
  • rôl ymarfer creadigol ac is-ddiwylliannau mewn diwylliannau ieithoedd lleiafrifol megis y Gymraeg;
  • dadansoddiad seicolegol a'r berthynas rhwng iaith, mynegiant a rhywioldeb i les seicolegol a pherthnasoedd.

Mae diddordeb mawr gennyf mewn mynd i'r afael â'r pryderon hyn yng nghyd-destun arferion sy'n arbrofi'n ieithyddol megis barddoniaeth, barddoneg, perfformiad, arfer celf rhyng-gyfryngau ac ysgrifennu.

Prif Wobrau Cydweithrediadau