Dr Nicholas Micallef

Dr Nicholas Micallef

Darlithydd mewn Cyfrifiadureg
Computer Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Nicholas Micallef yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhyngweithiadau rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), camwybodaeth, dulliau diogelwch a phreifatrwydd defnyddiadwy, dulliau dilysu a HCI symudol. Mae ei ymchwil ddiweddar yn canolbwyntio ar gamwybodaeth o safbwynt data a phobl. Yn ei rôl flaenorol ym Mhrifysgol Efrog Newydd Abu Dhabi, cymerodd ran mewn prosiectau amrywiol a fu’n astudio dulliau gwrthsefyll camwybodaeth a lledaenu camwybodaeth aml-lwyfan, aml-ddull. Yn ei swydd ym Mhrifysgol De Cymru Newydd, roedd ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddylunio technolegau i wella preifatrwydd sy'n rhoi gwybodaeth realistig i ddefnyddwyr i'w gwneud yn anhysbys ar-lein.  Enillodd Dr Micallef ei PhD o Brifysgol Glasgow Caledonian yn y Deyrnas Unedig. Yn ei PhD, ymchwiliodd i'r defnydd o synhwyro symudol er mwyn gwella defnyddioldeb dulliau dilysu ffonau symudol.

Meysydd Arbenigedd

  • Rhyngweithiadau rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI)
  • Camwybodaeth/twyllwybodaeth
  • Dulliau diogelwch y gellir eu defnyddio
  • Dulliau preifatrwydd y gellir eu defnyddio
  • Dulliau dilysu
  • HCI symudol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

“Gwobr am y Papur Gorau” yn y gweithdy rhyngwladol ar archwilio apiau ffonau clyfar a dysgu ganddynt at ddibenion defnyddwyr (AppLens 2018), a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â chyd-gynhadledd ryngwladol ACM ar gyfrifiadura treiddiol a hollbresennol yn 2018 (UbiComp 2018).
Dyfarnwyd gwobr “Cydnabyddiaeth i Adolygydd Ardderchog” iddo yn CHI 2017.
“Gwobr Sylw Anrhydeddus” yng nghynhadledd MobileHCI 2015.