Trosolwg
Rwy’n rheolwr data ymchwil ac yn ecolegydd, gyda 9 mlynedd o brofiad mewn bioguradu, dylunio cronfeydd data a rheoli data ymchwil, yn enwedig gan ddefnyddio PostgreSQL, ac mae gennyf 10 mlynedd o brofiad yn y maes ecoleg mamolion a rheolaeth bywyd gwyllt yn y DU, Ffrainc a’r Eidal, gan gydweithio â Phrifysgolion, Canolfannau Ymchwil, Cyrff Llywodraethu, Cyrff Anllywodraethol Rheolaeth a Chadwraeth Bywyd Gwyllt, ac Ardaloedd Gwarchodedig. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, enillais radd MSc mewn Biowyddorau ym Mhrifysgol Pisa (Yr Eidal) a Doethuriaeth mewn Gwyddorau Amgylcheddol a Thechnoleg ym Mhrifysgol Siena (Yr Eidal), a bûm yn gweithio i Brifysgol Siena (Yr Eidal), Sefydliad ONCFS Ffrainc, ac EURODEER, y prosiect rhannu data rhyngwladol.