Trosolwg
Mae Dr Weck yn gweithio'n bennaf ym maes ffiniau ynni isel damcaniaeth llinynnau, lle gellir brasamcanu ffiseg disgyrchiant cwantwm gan ddefnyddio damcaniaethau disgyrchiant. Drwy astudio union ddatrysiadau'r damcaniaethau disgyrchiant hyn, gallwn ddysgu am natur Damcaniaethau Maes Cwantwm sy'n disgrifio rhyngweithiadau rhwng gronynnau, am ddisgrifiadau microsgopig posib o ran tyllau duon ac am gysylltiadau dwfn rhwng meysydd ymchwil gwahanol mewn ffiseg. Derbyniodd ei PhD mewn Ffiseg yn 2023 o Brifysgol Johns Hopkins ac mae wedi bod yn rhan o'r grŵp damcaniaeth yn Abertawe ers mis Hydref 2023.