Trosolwg
Dros y naw mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn weithgar ym maes trosglwyddo ymchwil a thechnoleg Technolegau Cylchedau Pŵer Intregredig.
Cwblhaais fy PhD ar y pwnc hwn yn 2007 lle yr adroddais am welliannau gyda’r gorau yn y byd ym mherfformiad dyfeisiau ar gyfer Technolegau Cylchedau Pŵer Integredig (PIC).
Yn ddiweddar, rwyf wedi manteisio ar fy ngwybodaeth helaeth o dechnolegau cylchedau integredig silicon yn meysydd meddygol a biolegol gan gydweithio â nanodechnolegwyr, biolegwyr a gwyddonwyr meddygol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae hyn wedi arwain at gyllid uniongyrchol gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i ddatblygu llwyfan technoleg CMOS newydd gyda meysydd cymhwyso gan gynnwys Lab-On-A-Chip i ganiatáu gwell dealltwriaeth o'r ymateb imiwnlegol sy'n sail i lawer o gyflyrau clefydau gan gynnwys alergeddau, diabetes a chanser. Bydd y llwyfan newydd hefyd yn hwyluso'r gwaith o astudio hylifau gyda meysydd cymhwyso yn y sector ynni.