Trosolwg
Mae fy niddordebau academaidd yn canolbwyntio ar iechyd a diogelwch yn y gweithle, gyda phwyslais arbennig ar oriau gwaith. Rwy'n dysgu Seicoleg Gwaith ar lefel israddedig y drydedd flwyddyn. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau oriau gwaith ‘ansafonol’ (e.e. gwaith shifft, oriau gwaith hir a gweithio hyblyg).
Yn ychwanegol at fy swydd ym Mhrifysgol Abertawe, rwy'n ymwelydd rheolaidd ac ymchwilydd gwadd yn y Sefydliad Ymchwil Straen, sy'n rhan o Adran Seicoleg Prifysgol Stockholm.