a photo of Singleton campus with the view of the Singleton park and sea

Dr Ryan Sweet

Uwch-ddarlithydd
Classics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602350

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
112
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Darlithydd yn y Dyniaethau a Chyfarwyddwr Rhaglen Blwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau yw Ryan Sweet. Mae'n arbenigo mewn astudiaethau llenyddol a diwylliannol mewn perthynas ag anabledd, ac mae ei lyfr cyntaf am sut cafodd rhannau prosthetig y corff eu creu ym Mhrydain ac America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, ar gael am ddim (diolch i gyllid hael gan Ymddiriedolaeth Wellcome) drwy’r platfform mynediad agored, SpringerOpen. Ar hyn o bryd, mae Ryan yn ymchwilio i hanes diwylliannol dryslyd anabledd ac anifeiliaid annynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrydain.

Yn gysylltiedig â'i ddiddordebau ymchwil, sy'n canolbwyntio ar gysyniadau hygyrchedd a chynhwysiant, mae Ryan yn hynod ymroddedig i ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.  Fel myfyriwr graddedig cenhedlaeth gyntaf o deulu Cernyweg, dosbarth gweithiol, gwledig, ar ôl cwblhau ei raddau BA (Anrh), MA, a PhD (pob un yn Saesneg) ym Mhrifysgol Caerwysg, aeth Ryan ymlaen i chwarae rôl allweddol wrth ddylunio ac arwain Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau lwyddiannus iawn ym Mhrifysgol Plymouth (2018-2020) cyn dechrau ar ei waith yn Abertawe ym mis Mehefin 2020. Mae Ryan yn angerddol am alluogi myfyrwyr o gefndiroedd anhraddodiadol a/neu wedi’u hymyleiddio i ffynnu yn y brifysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes diwylliannol a llenyddol prosthesisau
  • Cynrychioliadau o anifeiliaid “anabl”
  • Astudiaethau Fictoraidd
  • Astudiaethau anabledd
  • Dyniaethau meddygol
  • Blynyddoedd Sylfaen yn y Dyniaethau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Ryan yn addysgu ar draws y dyniaethau ar gyfer y flwyddyn Sylfaen, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y sgiliau astudio, y meddylfryd, a’r hyder y mae eu hangen er mwyn llwyddo ar lefel israddedig. Mae’r flwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau yn Abertawe yn rhan o flwyddyn gyntaf y llwybrau gradd canlynol:


Astudiaethau Americanaidd
Hanes yr Henfyd
Astudiaethau Clasurol
Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Addysg
Eifftoleg a Hanes yr Henfyd
Iaith Saesneg
Llenyddiaeth Saesneg
Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
Hanes
Cysylltiadau Rhyngwladol
Y Cyfryngau a Chyfathrebu
Astudiaethau Canoloesol
Gwleidyddiaeth
Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau