Trosolwg
Mae Dr Churm yn enetydd moleciwlaidd brwdfrydig ac yn fiocemegydd sy'n canolbwyntio ar ymchwil gymhwysol ac yn y labordy. Mae prif ffocws ymchwil Dr Churm yn seiliedig ar ffordd o fyw a chlefyd, yn benodol effaith ymyriadau ffordd o fyw ar flonegrwydd a'r cyflwr metabolaidd.
Mae prosiectau cyfredol yn canolbwyntio ar y rhyngberthynas rhwng rheoleiddio hormonau, swyddogaeth blonegrwydd a homeostasis glwcos. Mae cydweithrediadau ymchwil yn cynnwys cysylltiadau agos â grŵp ymchwil diabetes yn yr Ysgol Feddygaeth, Y Gweilch yn y Gymuned ac amryw o bartneriaid diwydiant.