Trosolwg
Yr Athro Parry yw Pennaeth Adran y Gymraeg. Mae’n ysgolhaig ac yn fargyfreithiwr, gyda’i ddiddordebau ymchwil yn ymgysylltu’r gyfraith â hanes ac iaith, ac yn enwedig yng nghyd-destun Cymru a'r Gymraeg. Mae ganddo record hir o gyhoeddiadau ysgolheigaidd, gan gynnwys monograffau, erthyglau a chyfraniadau at gasgliadau wedi'u golygu. Mae wedi gwasanaethu ar sawl pwyllgor cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.