woman smiling

Dr Becky Band

Athro Cyswllt
Public Health

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 203
Ail lawr
Adeilad Talbot
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Becky yn seicolegydd ac yn Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe, y DU.

Mae ymchwil Becky yn canolbwyntio ar dri maes:

Perthnasoedd cymdeithasol ac iechyd
Mae'r ymchwil hon yn dod â safbwyntiau a dulliau gwahanol ynghyd i archwilio sut mae perthnasoedd yn effeithio ar iechyd a lles. Mae ymchwil Becky yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar:

  • unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a sut mae'r rhain yn effeithio ar ganlyniadau iechyd ac ymddygiadau (megis defnyddio alcohol)
  • rhwydweithiau cymdeithasol personol a rheoli salwch ar draws amrywiaeth o gyflyrau cronig
  • rôl y teulu a pherthnasoedd pwysig eraill (megis perthnasoedd personol â phartner) ar iechyd a lles

2. Datblygu a gwerthuso ymyriadau newid ymddygiad

Mae gwaith Becky wedi cynnwys datblygu, optimeiddio a gwerthuso ymyriadau ymddygiadol cymhleth i gefnogi hunanreolaeth a lles

  • Mae'r ymyriadau hyn wedi cynnwys hunanfonitro pwysedd gwaed (mewn oedolion hŷn a beichiogrwydd risg uchel), canser y prostad, profi genetig a lleihau defnydd o alcohol mewn oedolion hŷn.
  • Mae gan Becky arbenigedd mewn defnyddio'r Ymagwedd sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PBA) sy'n defnyddio dulliau cymysg i ddatblygu ymyriadau ysgogol a hygyrch i ddefnyddwyr. 

3. Grwpiau anodd eu cyrraedd ac ymchwil gymunedol

Mae gan Becky sgiliau arbenigol a diddordeb mewn ennyn diddordeb grwpiau anodd eu cyrraedd neu’r rhai hynny ar y cyrion drwy ymchwil, cynnal ymchwil mewn lleoliadau cymunedol ac arweinyddiaeth PPIE.

Mae croeso ichi gysylltu i drafod hyfforddiant ar gyfer Mynegi Emosiynau (EE) a dulliau mapio rhwydweithiau cymdeithasol, defnyddio'r PBA i ddatblygu ymyriadau neu gyfleoedd goruchwylio posib.