Professor Rhiannon Owen

Yr Athro Rhiannon Owen

Cadair Bersonol
Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 9624

Cyfeiriad ebost

303
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Rhiannon Owen yn Athro Ystadegaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw datblygu dulliau Bayesaidd a'u cymhwyso mewn Asesu Technoleg Iechyd, Iechyd y Boblogaeth a Gwerthuso'r Gwasanaeth Iechyd. Yn benodol, mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dulliau cyfosod tystiolaeth, dadansoddi cofnodion iechyd electronig cysylltiedig ar raddfa fawr, dulliau efelychu, gwerthuso treialon clinigol, modelu penderfyniadau economaidd a gwerth gwybodaeth.  Cefnogwyd y gwaith hwn gan Academi’r Gwyddorau Meddygol (AMS), Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), y Sefydliad Cenedlaethol dros  Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac Ymddiriedolaeth Wellcome.

Mae Rhiannon yn aelod o Bwyllgor Arfarnu Technoleg y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), yn aelod o Uned Cefnogi Penderfyniadau NICE, ac yn Aelod Cysylltiol o Uned Cymorth Technegol NICE. Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithio ar draws sectorau gan gynnwys fel ymgynghorydd, gan gynnig cyngor methodolegol a strategol i'r diwydiant fferyllol a gofal iechyd.

Mae Rhiannon yn addysgu ar sawl cwrs gan gynnwys bod yn Arweinydd Modiwl PMRM02 Dadansoddi Data ar gyfer y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ac yn oruchwyliwr prosiect PM-344 Prosiectau Capfeini a PMIM702 Traethawd Hir Data Iechyd.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioystadegau
  • Dulliau Bayesaidd
  • Asesu Technoleg Iechyd
  • Cyfosod tystiolaeth
  • Dadansoddi cofnodion iechyd electronig ar raddfa fawr
  • Dulliau efelychu
  • Gwerthuso economaidd
  • Trosi dulliau ystadegol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Rhiannon yn addysgu cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a datblygiad proffesiynol parhaus, gan ganolbwyntio ar fioystadegaeth, asesu technoleg iechyd, dadansoddi data iechyd a throsi dulliau ystadegol yn ymarfer clinigol a pholisi iechyd. Mae Rhiannon yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau