Mrs Rhian Williams

Rheolwr Prosiect
Public Health

Cyfeiriad ebost

289
Ail lawr
Adeilad Talbot
Campws Singleton

Trosolwg

Rheolwr Prosiect

Rwy'n Rheolwr Rhaglen a Phrosiect profiadol gyda gwybodaeth fanwl am reolaeth ariannol, caffael, recriwtio, rheoli llinell, marchnata a chyfathrebu. Rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau Llywodraeth Ewrop a Chymru. 

Ers mis Tachwedd 2015, bûm yn Rheolwr Prosiect y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ac mae gennyf gyfrifoldeb am reolaeth ariannol y Ganolfan o ddydd i ddydd ynghyd â chydlynu gweithgareddau ein cyd-noddwyr prosiect, y Grŵp Ymgynghorol ac yn ddiweddar y grŵp IEG. Y minnau yw'r prif bwynt cyswllt â noddwr cyllido Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW). 

Cyn gweithio yn CADR, gweithiais i Brifysgol Caerdydd am dros 15 mlynedd yn gweithio mewn nifer o rolau ar draws Peirianneg a Phensaernïaeth gan gynnwys cyd-reoli dau brosiect a Ariennir gan Ewrop (WEFO) - y prosiect Low Carbon Built Environment (LCBE) a oedd yn rhan o rhaglen gwerth £50m wedi'i lleoli o dan Low Carbon Research Institute a'r The Sustainable Building Envelope Demonstration (SBED) a oedd yn £8m. Roedd y ddau brosiect hyn yn cynnwys rhedeg prosesau caffael offer mawr a thendro'r UE a hefyd gweithio'n agos gyda chwmni rhyngwladol mawr.

Golyga fy arddull broffesiynol a phersonol, fy agwedd ddilys tuag at gyfathrebu, brwdfrydedd, aml fy noniau a moeseg cryf tuag at waith, y gallaf lwyddo mewn nifer o wahanol amgylcheddau a gallaf ddod â gwerth i sefydliadau. Rwy'n cofleidio dulliau newydd o weithio, technolegau newydd ac amgylcheddau gwaith hyblyg blaengar. 

Rwyf hefyd yn ymarferydd cofrestredig PRINCE2.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli Prosiectau
  • Rheoli Rhaglenni
  • Rheolaeth Ariannol
  • Rheoli Llinell / Rheoli Pobl