Trosolwg
Mae Richard yn Athro Cysylltiol yn yr Adran Llenyddiaeth, y Cyfryngau ac Iaith, lle mae'n Gyd-gyfarwyddwr sefydlu’r Grŵp Ymchwil Ymarfer Creadigol a Beirniadol. Ei brif feysydd arbenigedd yw ffuglen gyfoes a'r ugeinfed ganrif, yn enwedig moderniaeth, moderniaeth hwyr, ysgrifennu Gwyddelig ac astudio gororau llenyddol Ewrop. Mae'n awdur dau fonograff: Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern and Modernism (Bloomsbury, 2017). Mae'n cyhoeddi mewn cyfnodolion megis Critical Quarterly, Modern Fiction Studies, James Joyce Quarterly, Irish University Review, Journal of European Studies, Textual Practice ac English Studies. Mae'n adolygu llyfrau ar gyfer The Guardian (yma ac yma) ac mae'n aelod o fwrdd golygyddol The Journal of European Studies.
Ar hyn o bryd, mae Richard yn gweithio ar arddull a ffuglen gyfoes. Mae wedi golygu ar y cyd (gyda Barry Sheils) rifyn arbennig o Textual Practice, The Contemporary Problem of Style (2022). Mae wrthi'n cyd-ysgrifennu (gyda Barry Sheils) monograff o'r enw The Discipline of Style: Sentence, Voice, Description and Translation in Contemporary Fiction.