Trosolwg
Mae Rachel yn wyddonydd fforensig ac mae ganddi PhD mewn cemeg ddadansoddol. O ganlyniad i'w diddordeb mewn dadansoddiadau dadansoddol, yn enwedig technegau â chysylltnod megis sbectrometreg màs cromatograffeg hylif (LC-MS), astudiodd am PhD (2019) yn y broses o fonitro cynhyrchion fferyllol a bioladdwyr. Mae Rachel wedi cydweithredu â nifer o bartneriaid diwydiannol lleol, gan weithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu dull o baratoi samplau amgylcheddol, gan fynd i'r afael â heriau rhanddeiliaid wrth fodloni rheoliadau presennol a rhaglenni monitro, a chyda Biotage GB i ddatblygu cynnyrch QuEChERS newydd a oedd yn addas at ddiben paratoi samplau amgylcheddol.
Ar hyn o bryd, Rachel yw Tiwtor Cymorth Academaidd y rhaglen MSc mewn Nanofeddygaeth ac mae hi hefyd yn rheoli gweithrediad dyddiol labordai Cemeg Ddadansoddol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn Adeilad Talbot.
Mae Rachel yn aelod gweithgar o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y British Mass Spectrometry Society a'r British Society for Nanomedicine.