Trosolwg
Derbyniodd Dr Roland Gillen ei PhD (EEE) o Brifysgol Caergrawnt a gradd gyfwerth ag MEng mewn Gwyddor Peirianneg o Brifysgol Dechnegol Berlin, yr Almaen.
Mae ganddo ddiddordeb mewn nodweddion electronig, optegol a dirgrynol deunyddiau lled-ddargludol a'u cymhwysedd i ddyfeisiau ynni-effeithlon. I'r perwyl hwn, defnyddir dulliau sbectrosgopeg damcaniaethol modern at ddibenion nodweddu cyfrifiadol, gan ategu archwiliadau arbrofol yng nghyd-destun cydweithrediadau amrywiol.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar nano-ddeunyddiau un dimensiwn a dau ddimensiwn ac ar heterostrwythurau gweithredol rhwng deunyddiau lled-ddargludol.