Trosolwg
Ar ôl ennill gradd MSc mewn Biotechnoleg Fferyllol ym Mhrifysgol Bologna, yr Eidal, cefais swydd gyda chwmni biofeddygol yn Sbaen i ymchwilio i fiosynhwyrydd newydd wedi'i seilio ar MEMS. Yn dilyn y profiad hwn, cwblheais fy noethuriaeth mewn nanowyddoniaeth ym Mhrifysgol Bryste, ac ar hyn o bryd rwy'n cymhwyso nanowyddoniaeth ar gyfer ymchwil biofeddygol o fewn grŵp ymchwil Bioleg Atgenhedlol ac Oncoleg Gynaecolegol (RBGO) ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n cael fy swyno’n gyson gan ddarganfyddiadau newydd a chynnydd mewn gwyddoniaeth, gyda sylw arbennig i wyddoniaeth feddygol, ond hefyd i wyddoniaeth yn ei sbectrwm ehangach, o ffiseg a chemeg i beirianneg a chyfrifiadureg.