Yr Athro Simon Hoffman

Athro
Law

Cyfeiriad ebost

134
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae ymchwil Simon yn canolbwyntio ar hawliau dynol rhyngwladol sy'n mynd i'r afael ag effaith tlodi. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut mae hawliau dynol yn dylanwadu ar bolisi yng nghyd-destun datganoli.

Mae Simon yn Brif Ymchwilydd profiadol ac wedi arwain llawer o brosiectau ymchwil. Mae wedi cael ei wahodd i gyflwyno ei ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ac mae wedi rhoi cyngor arbenigol ar hawliau dynol i fforymau seneddol. Mae Simon yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau cymunedol i ysgogi newid i bolisïau er mwyn gwella bywydau pobl.

Mae ei addysgu'n canolbwyntio ar hawliau dynol, ac mae'n addysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Meysydd Arbenigedd

  • Hawliau Dynol
  • Hawliau Plant
  • Gweithredu Hawliau Dynol
  • Hawliau Economaidd a Chymdeithasol
  • Tlodi

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Yn 2012, cyd-sefydlodd Simon yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant. Mae'r Arsyllfa yn ganolfan ymchwil effaith uchel sydd wedi cyfrannu at gydnabod hawliau dynol plant yng nghyfraith a pholisi sawl awdurdodaeth.