Yr Athro Stefan Eriksson

Athro
Physics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602291

Cyfeiriad ebost

521
Pumed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n archwilio ffiseg sylfaenol drwy gynnal arbrofion gyda mater a gwrthfater ar dymheredd sy'n agosáu at sero absoliwt. Ar hyn o bryd, rwy'n canolbwyntio ar wrthhydrogen gyda'm grŵp yng Nghydweithrediad ALPHA yn CERN. Ein nod yw cymharu priodweddau hydrogen a gwrthhydrogen yn union, a ddylai fod yr un fath. Pe na baent, byddai rhywbeth o'i le gyda sylfeini ffiseg. Gobeithiwn y gallai ein hastudiaethau helpu i daflu goleuni ar un o'r dirgelion dyfnaf; pam nad oes bron unrhyw wrthfater ar ôl yn ein bydysawd heddiw, pan oedd symiau cyfartal ar y dechrau. Cydweithrediad ALPHA oedd y cyntaf i ddangos cyffroad cyseiniol gwrthhydrogen ac rydym bellach yn gallu cynnal sbectrosgopeg gwrthhydrogen gyda manylder sy'n cyrraedd ychydig o rannau mewn triliwn. Rwy'n arwain ymdrech fawr i wella'r manylder ymhellach.

Rwyf hefyd wedi datblygu technegau newydd i astudio mater uwchoer gyda chydrannau digon bach i greu dyfeisiau ar raddfa sglodion a ddaeth yn un o'r platfformau ar gyfer prosesu gwybodaeth cwantwm ac rwy'n datblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio opteg nanoraddfa yn y mathau hyn o arbrofion.

Cyn dechrau yn fy swydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2007, treuliais gyfnod helaeth yng Ngholeg Imperial Llundain. Cefais PhD ym Mhrifysgol Helsinki.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Ffiseg Atomig
  • Gwrthhydrogen
  • Opteg cwantwm
  • Oeri a Thrapio Laser
  • Cyddwysiad Bose-Einstein
  • Ymyriadureg Atom
  • Sbectrosgopeg Laser

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme 2014-2016

Cydweithrediadau