Trosolwg
Mae'r Athro Stephen McVeigh yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Addysg (Ansawdd a Safonau). Ef yw'r Arweinydd Sefydliadol ar gyfer nifer o brosiectau addysg sylweddol ar draws y Brifysgol. Mae'n arweinydd prosiect Trawsnewid y Cwricwlwm ac mae'n arwain prosiectau sy'n gysylltiedig â gwella cyfraddau cadw a dilyniant, gan roi polisi amserlennu newydd ar waith, adolygu a gwella prosesau a strwythurau sicrhau ansawdd allweddol a diffinio gwedd unedau gwasanaeth proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysg yn y dyfodol.
Fel Athro yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, mae'n hanesydd diwylliannol yr Unol Daleithiau yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae ei feysydd ymchwil ac addysgu'n amrywiol o fewn yr amserlen hon o hanes diwylliannol America yn y 19eg a'r 20fed ganrif, gan gynnwys hanes a chwedloniaeth Gorllewin America, ffilmiau Americanaidd, llenyddiaeth America yn yr 20fed ganrif a ffuglen rad Americanaidd a Rhyfel a Chymdeithas America.
Yr Athro McVeigh yw golygydd y gyfres War, Culture and Society, sef cyfres o fonograffau ymchwil a gyhoeddir gan Bloomsbury. Mae ef hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Journal of War and Culture Studies.