Trosolwg
Mae fy niddordebau ymchwil ym maes eang Dynameg a Rheolaeth Strwythurol Llinol ac Aflinol. Aeroelastigrwydd (a rheoli systemau aeroelastig), yn arbennig, fu fy maes ymchwil diweddaraf. Yn y maes hwn, rwy'n astudio ymddygiad deinamig systemau aeroelastig, ac yn ymchwilio i ddulliau rheoli llinol ac aflinol (e.e. llinelloliad adborth, lleoliad pegynau). Hefyd, mae gennyf ddiddordeb mewn astudio deinameg systemau aflinol nad ydynt yn llyfn (strwythurol ac aeroelastig) a'u rheolaeth.