Trosolwg
Mae Spyros yn Uwch-gymrawd Ymchwil y British Heart Foundation ac yn Athro Cyswllt sydd wedi cael 20 mlynedd o brofiad o ymchwilio i'r broses o gyplysu cynhyrfu â chrebachu yn y galon, a gwaith calsiwm fel cyfrwng arwyddion. Enillodd Spyros BSc mewn Cemeg o Brifysgol Athens yng Ngwlad Groeg ac MSc mewn Biocemeg a Bioleg Foleciwlaidd o Goleg y Brenin Llundain. Dyfarnwyd PhD iddo gan Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru am nodweddu cymhlygyn sianelau rhyddhau calsiwm derbynyddion ryanodine (ryanodine receptor calcium release channel complex). Bu Spyros yn gweithio am sawl blwyddyn yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, Caerdydd, gydag ymchwilwyr o'r un meddylfryd (Tony Lai, Alan Williams, Chris George, Lowri Thomas) er mwyn ennill ac ehangu ei arbenigedd ym meysydd biowybodeg, bioleg foleciwlaidd, biocemeg, nodweddu sianelau unigol bioffisegol, fflworoleuedd a microsgopeg gydffocal. Cafodd gyrfa annibynnol Spyros ei sbarduno gan Gymrodoriaeth Ymchwil Ganolradd y BHF yn 2019 a'i hatgyfnerthu gan Uwch-gymrodoriaeth Ymchwil y BHF yn 2015. Mae ef wedi bod yn Ysgol Feddygaeth Abertawe ers 2017 ac fe'i penodwyd yn Athro Cyswllt yn 2020.
Mae prif ymchwil Spyros yn ymwneud â dadansoddi strwythur-gweithrediad sianelau rhyddhau calsiwm derbynyddion ryanodine a'i rôl mewn achosion o arhythmia a marwolaeth y galon. Mae ganddo uchelgais penodol i nodi cyffuriau newydd i atal achosion o arhythmia sy'n targedu gweithrediad derbynyddion ryanodine yn benodol ac yn ei sefydlogi.