Mae ein staff yn hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ag ymagwedd ryngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol. Trwy ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang, ein nod yw gwella canlyniadau iechyd a lles ar gyfer pobl yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae ein myfyrwyr un elwa o’n safle ar flaen y gad o ran ymchwil, sydd yn ei dro’n llywio addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.
![Staff chatting](/cy/staff/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/iechyd-gofal-cymdeithasol/1898x555-6792-090419_196%5B1%5D.jpg)
Staff Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Staff Bydwreigiaeth
![Bydwreigiaeth](/cy/staff/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/iechyd-gofal-cymdeithasol/Midwifery.jpg)
Staff Gwyddor Barafeddygol
![Gwyddor Barafeddygol](/cy/staff/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/iechyd-gofal-cymdeithasol/Paramedic-Science.jpg)
Staff Gwaith Cymdeithasol
![Darlithydd Gwaith Cymdeithasol](/cy/staff/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/iechyd-gofal-cymdeithasol/Social-Work.jpg)
Staff therapïau
![therapïau](/cy/staff/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/iechyd-gofal-cymdeithasol/Therapies.jpg)
Y Tîm Gweithredol
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Arloesi, Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol) yw’r Athro John Gammon. Mae ei bynciau arbenigol yn cynnwys llywodraethu yn y GIG ac ymarfer rheoli heintiau.
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Dysgu ac Addysgu ac Ymarfer Proffesiynol) yw’r Athro Michelle Lee. Diddordebau Michelle yw: gordewdra, archwaeth ac ymddygiad bwyta. Ei ffocws ymchwil cyfredol yw rôl prosesau gwybyddol wrth reoli pwysau corff.
Cyfarwyddwr Academi Iechyd a Llesiant Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw Mrs Julia Pridmore. Mae ei diddordebau yn cynnwys gwella ansawdd, llywodraethu a diogelwch y claf.